Boed i Grist yn etifeddiaeth, Y Cenhedloedd o bob iaith; A therfynau'r byd i'w feddiant, Ga'dd yn wobrwy am ei waith; Ië, rhoddwyd, Pob awdurdod yn ei law. Holl deyrnasoedd byd yn gyfan, Sydd yn eiddo'n Harglwydd ni; Ei lywodraeth sydd yn eang, Mae ei enw uwch pob bri; Boed yn amlwg Ei ogoniant Ef a'i ras. Iesu! estyn dy deyrnwialen Dros derfynau eitha'r byd; Dyrcha'th faner at y bobloedd, Atat tyn y rhai'n i gyd: Gan bob llygad Gwelir iachawdwriaeth Duw. Daw'r holl freision ar y ddaear I was'naethu Crist yn llon; A holl wŷr y llwch a ddeuant, Ac ymgrymant ger ei fron; Haleluiah, Bendigedig fyddo'r Oen. Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845 Tôn [878747]: Peniel (alaw Gymreig)
gwelir: |
May Christ have as an inheritance, The nations of every language; And the ends of the world as his possession, Which he got as a prize for his work; Yes, he was given, All authority in his hand. All the kingdoms of the whole world, Are the property of our Lord; His government is wide, His name is above all renown; May his glory And his grace be evident. Jesus, extend thy sceptre Over the utmost ends of the world; Raise thy banner to thy peoples, To thyself draw them all: By every eye Is the salvation of God to be seen. All the prosperous on the earth shall come To serve Christ cheerfully; And all the men of dust shall come, And bow before him; Hallelujah, Blessed be the Lamb. tr. 2021 Richard B Gillion |
|